Mandriva Linux

Gwybodaeth am Osod

Ffurfweddiad Angenrheidiol

Mae gosod Mandriva Linux, yn y rhan fwyaf o achosion mor syml â rhoi eich CD Gosod yn eich gyrrwr CDROM, ac ail gychwyn eich peiriant. Darllenwch bwynt 1.

SYLW:


Dyma ffyrdd gwahanol i osod Mandriva Linux:

  1. Cychwyn yn syth o'r CD
  2. Gwneud disg cychwyn gyda Windows
  3. Dulliau eraill o osod


1. Cychwyn yn syth o'r CD

Mae modd cychwyn y gosodiad drwy'r CDROM Gosod. Yn yr rhan fwyaf o achosion, rhowch y CD yn y gyrrwr ac ail gychwyn y peiriant. Dilynwch y cyfarwyddid ar y sgrin: pwyswch [Enter] i gychwyn gosod, neu [F1] am gymorth pellach.

SYLW:

Ar rai cyfrifiaduron symudol, efallai na fydd y system yn ailgychwyn o'r CD. Os mae hyn yn digwydd, ceisiwch gychwyn o'r ail CD: mae modd cychwyn o hwnnw hefyd, ac mae'n defnyddio trefn 'mwy diogel'. Pan fydd yn gofyn amdano, newidiwch yr CD. Os nad yw'r ail CD yn cychwyn chwaith, dylech baratoi disg cychwyn.  Gweler pwynt 2 am fanylion.

[brig y dudalen]


2. Gwneud disg cychwyn gyda Windows

Os nad yw eich cyfrifiadur yn medru cychwyn gyda'r CDROM ac ni wnaeth y dulliau blaenorol weithio, rhaid i chi wneud disg cychwyn gyda Windows. Dyma sut mae gwneud:

I gychwyn y gosodiad:

[brig y dudalen]


3. Dulliau eraill o osod

Os am unrhyw reswm nid yw'r dulliau blaenorol yn ateb eich angen (rydych am wneud gosodiad rhwydwaith, gosod o ddyfais pcmcia neu...), bydd angen i chi hefyd wneud disg cychwyn:

Lle mae xxxxx.img yn un o'r delweddau cychwyn:

cdrom.img gosod o'r CD-ROM
hd_grub.img gosod o'r disg caled (system ffeilio Linux, Windows, neu ReiserFS filesystem)
gallwch ei ffurfweddu ar gyfer eich system yn: http://qa.mandriva.com/hd_grub.cgi
network.img gosod o ftp/nfs/http
SYLW: bydd angen mewnosod network_drivers.img yn yrrwr eich disg meddal pan fydd cais
pcmcia.img gosod o ddyfeisiau pcmcia (rhybudd, mae' rhan fwyaf o addaswyr rhwydwaith pcmcia yn cael eu cynnal gan network.img)

Gallwch hefyd losgi boot.iso ar CDROM a chychwyn ohono. Mae'n cynnal pob dull gosod, cdrom, rhwydwaith a disg caled.

[brig y dudalen]


Mae modd ii chi hefyd ddefnyddio'r modd testun i osod os ydych yn cael anhawster, am ryw reswm, gyda'r gosod graffigol rhagosodedig. I'w ddefnyddio pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandriva Linux, ac yna teipiwch text wrth yr anogwr.

Os fyddwch byth angen achub eich system Mandriva Linux, rhowch eich CDROM Gosod (neu'r disg cychwyn perthnasol) yn y peiriant, pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandriva Linux, ac yna teipiwch rescue wrth yr anogwr.

Gweler http://www.mandrivalinux.com/drakx/README am ragor o wybodaeth dechnegol.

[brig y dudalen]


Prif gamau'r gosodiad:

  1. Rhowch eich CDROM Gosod neu (neu ddisg cychwyn, yn ôl y galw) ac ail gychwyn eich peiriant.
  2. Pwyswch [Enter] pan fydd sgrin croesawu Mandriva Linux yn ymddangos a dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus.
  3. Pan fydd y gosodiad wedi ei gwblhau tynnwch y CD o'r peiriant pan fydd wedi cael ei fwrw allan (ac unrhyw ddisg meddal os yw'n y gyrrwr); bydd eich peiriant yn ail gychwyn. Os nad, cychwynnwch y peiriant gyda llaw.
  4. Bydd Mandriva Linux yn cychwyn. Ar ôl iddo gychwyn bydd modd i chi fewngofnodi o dan eich enw eich cyfrif neu fel "gwraidd" (root).

Nodyn pwysig:

Mae'r cyfrif "gwraidd" ("root") yn rhoi mynediad dilyffethair i'ch system Linux. Peidiwch â'i ddefnyddio oni bai eich bod eisiau ffurfweddu neu weinyddu Linux. Ar gyfer defnydd bob dydd. Mae modd ffurfweddu'r cyfrif gyda "userdrake", neu gyda gorchmynion "adduser" a "passwd".

Pob hwyl gyda Mandriva Linux!

[brig y dudalen]


Am gefnogaeth gyda'r gosod, gweler rhestr wybodaeth Mandriva Linux a'r FAQs ar safle gwe: